Mae Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis Adferiad yn gweithio ochr yn ochr gyda’r gwasanaeth ymyrraeth gynnar ar gyfer seicosis y GIG ym Mae Abertawe. Mae’r gwasanaeth wedi ei anelu tuag at y rhai hynny sydd wedi profi eu pwl cyntaf o seicosis ac yn anelu i helpu yr adferiad yn ystod camau cynnar seicosis, sgitsoffrenia a mathau eraill o symptomau ‘schizophreniform’. Mae’r gwasanaeth yn bwysig oherwydd, yn aml, gyda chyflyrau megis seicosis a sgitsoffrenia mae nifer o rwystrau mae rhai sydd wedi cael diagnosis yn eu hwynebu bob dydd. Mae hyn yn cynnwys cyflyrau iechyd meddwl eraill megis iselder, gorbryder, dadreoleiddio emosiynol a llawer mwy. Yn ogystal â’r rhain, mae problemau ffisiolegol megis dirywiad mewn iechyd corfforol, rhoi pwysau ymlaen, a gostyngiad mewn ffitrwydd cardiofasgwlaidd hefyd yn heriau a wynebir.