Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Swansea Young Families Scheme, Gweithredu Dros Blant

Lleoliad

Cyswllt

01792 585425

Tai

Rydym yn darparu

Cymorth i denantiaid yn eu cartref ar gyfer rhieni ifainc rhwng 16 a 25 oed a’u plant.
Mae’r cymorth yr ydym yn ei gynnig yn helpu rhieni ifainc i:
Cael a chynnal tenantiaeth
Adeiladu’r sgiliau i ddelio â thenantiaeth
Deall hawliau a chyfrifoldebau tenantiaid yn y gymuned a gweithredu arnynt
Arian

Gallwn gefnogi rhieni ifainc i:

Uchafu eu hincwm
Rheoli’r biliau
Dysgu llunio cyllideb
Negodi â chredydwyr
Cael mynediad at gyngor arbenigol am ddyledion
Creu llwybr datblygiad personol, megis addysg, hyfforddiant, gwaith gwirfoddol neu gyflogaeth
Eich bywyd

Gallwn eich helpu i:

Gwella’ch sgiliau a’ch gwybodaeth rhianta
Sefydlu cartref diogel addas i’r plant, a’ch helpu i ddiwallu anghenion datblygiadol eich plant
Helpu’ch plant i gael bywyd diogel, hapus ac iach
Cwrdd â rhieni eraill, fel y gall eich plant gwrdd â ffrindiau newydd hefyd
Cael cymorth addas gan asiantaethau eraill, a’ch helpu i ddod yn fwy cyfarwydd â’ch cymuned leol