Mae Tanio yn sefydliad sy’n ymrwymedig i ddarparu mynediad at amrywiaeth o weithgareddau a ymyriadau creadigol i gymunedau gwahanol – yn lleol ac yn rhyngwladol.**
Mae ein gwaith yn anelu at alluogi amrywiaeth eang o bobl i ddatblygu sgiliau, hyder a hunan-barch drwy arferion creadigol a gwaith cymunedol. Credwn, drwy roi’r dewrder a’r sicrwydd i unigolion – a all gael ei feithrin drwy hunanfynegiant creadigol – y gellir cryfhau a chyfoethogi unigolion a chymunedau.
Sefydlwyd y sefydliad yn ystod streic y glowyr yn Ne Cymru yn gynnar yn yr 1980au dan yr enw Valley & Vale. Mae’r sefydliad wedi gweithio gyda nifer fawr o bobl a chymunedau gan ddefnyddio Celfyddydau Cymunedol fel cerbyd ar gyfer archwilio a grymuso. Ar ôl degawdau o waith, rydym wedi esblygu’n naturiol dros y blynyddoedd i gyd-fynd â’r hyn y mae cymunedau’n ei angen gennym, ac yn 2020, fe wnaethom ailfrandio fel Tanio i gyd-fynd â’n cyfeiriad a’n pwrpas wedi’u hadnewyd