Sesiwn farddoniaeth yw hon gyda phobl hŷn mewn golwg. Mae’n gyfle i aelodau grwpiau dydd neu breswyl ddwyn i gof amseroedd, lleoedd, enwau a digwyddiadau yn eu bywydau trwy gyfrwng barddoniaeth – yn ogystal â mwynhau’r farddoniaeth ei hun.
Ychydig flynyddoedd yn ôl symudais yn ôl i dde Cymru o Suffolk ac yn bellach yn byw yn Nhŷ-du, Casnewydd. Rydw i wedi cyhoeddi nifer o gerddi, straeon byrion ac erthyglau yn genedlaethol. Ers sawl blwyddyn rwyf wedi darparu sesiynau barddoniaeth, rhyddiaith a hel atgofion rhyngweithiol i amrywiaeth o grwpiau gan gynnwys y rhai sy’n gysylltiedig â’r Gymdeithas Alzheimer ac Age Concern. Rydw i hefyd ar Restr Siaradwyr Ffederasiwn Sefydliadau Merched Gwent a Morgannwg.
Rwy'n dibynnu ar wahoddiadau gan grwpiau presennol. Felly byddaf yn ymweld â lleoliadau preswyl/cymunedol sefydledig pan fyddaf yn cael fy ngwahodd.