The Farming Community Network Cymru

Lleoliad

Cyfeiriad post

Manor Farm West Haddon NN6 7AQ

Mae FCN yn sefydliad gwirfoddol ac elusen sy’n cefnogi ffermwyr a theuluoedd o fewn y gymuned ffermio trwy gyfnod anodd.
Mae gan FCN dros 400 o wirfoddolwyr, wedi’u lleoli ledled Cymru a Lloegr, llawer ohonynt yn ffermio, neu â chysylltiadau agos ag amaethyddiaeth ac felly mae ganddynt ddealltwriaeth wych o’r problemau y mae gweithwyr fferm a theuluoedd ffermio yn eu hwynebu’n rheolaidd. Mae ein gwirfoddolwyr yn darparu cymorth bugeiliol ac ymarferol am ddim i unrhyw un sy'n ceisio cymorth, ni waeth a yw'r mater yn ymwneud â pherson neu fusnes.
Yn ogystal â grwpiau lleol o wirfoddolwyr, mae FCN yn cynnal llinell gymorth genedlaethol gyfrinachol (03000 111 999, ar agor 7am-11pm bob dydd o'r flwyddyn) ac e-linell gymorth (help@fcn.org.uk).
Bydd ein gwirfoddolwyr yn “cerdded gydag” unrhyw un sy'n ceisio cefnogaeth ac yn eu helpu i ddod o hyd i ffordd gadarnhaol trwy eu problemau. Bob blwyddyn rydym yn helpu tua 6,000 o bobl i ddelio ag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys anawsterau ariannol, afiechyd anifeiliaid, iechyd meddwl ac anghydfodau teuluol.
Mae FCN yn dibynnu’n llwyr ar roddion a grantiau er mwyn parhau i gefnogi’r gymuned ffermio. Gyda ffermio ym Mhrydain yn wynebu ansicrwydd dwfn yn y blynyddoedd i ddod, mae disgwyl i lwyth gwaith gwirfoddolwyr FCN gynyddu'n sylweddol.

Amseroedd agor

7 y bore tan11 y nos bob diwrnod o'r flwyddyn

Dewisiadau Mynediad

Galw heibio

Hunangyfeirio

Atgyfeiriad gan asiantaeth

Trwy drefnu apwyntiad yn unig