Mae Rhaglen Serenity CCBT yn gwrs 16 wythnos o Therapi Ymddygiad Gwybyddol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac a ddilynir ar gyfrifiadur neu ffôn symudol. Mae'r cwrs yn cynnwys 9 modiwl hawdd eu defnyddio y gellir eu cyrchu unrhyw bryd ac sydd wedi'u hanelu at helpu unigolion i ymdopi â phryder ac iselder ac i gynorthwyo'r broses adfer o'r cyflyrau iechyd meddwl cyffredin hyn. Ochr yn ochr â'r cwrs ei hun, bydd defnyddwyr yn derbyn cefnogaeth dros y ffôn bob pythefnos gan ymarferydd iechyd meddwl profiadol am 16 wythnos llawn y cwrs. Mae'r cwrs am ddim i unrhyw un sy'n byw yn ardal Gogledd Cymru.