Mae’r Rhaglen Adferiad Strwythuredig wedi ei lleoli ac yn cael ei darparu ar draws Gogledd Cymru. Mae hwn yn wasanaeth hanfodol ar gyfer unigolion sy’n ymrwymedig i oresgyn eu defnydd o sylweddau. Ein nod gyda’r rhaglen yw i helpu cyfranogwyr yn eu siwrnai adferiad, gan eu helpu i gynnal sobrwydd o gyffuriau ac alcohol.
Trwy ail-integreiddio i mewn i’w cymunedau a gwneud dewisiadau positif, ymdrechwn i’w grymuso i fyw bywydau boddhaus a gwerth chweil sy’n rhydd o ddibyniaeth.