TheSprout

Darparwyd gan
ProMo-Cymru

Darparwyd gan
ProMo-Cymru

Lleoliad

Cyfeiriad post

17 West Bute Street Cardiff CF10 5EP

Mae TheSprout yn gylchgrawn ar-lein a gwefan gwybodaeth i bobl ifanc 11-25, gan bobl ifanc 11-25 a’r sefydliadau sydd yn eu cefnogi yng Nghaerdydd.

Pob ychydig fisoedd, rydym yn creu ymgyrch newydd am faterion sydd yn bwysig i bobl ifanc, gan bobl ifanc Caerdydd.

Os oes gen ti ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn ymgyrch am rywbeth sydd yn bwysig i ti, yna gallem gynnig cyfleoedd gwirfoddoli heb dâl. Ond, efallai daw cyfleoedd i gael gwaith yn y dyfodol sydd yn talu.

Mae lleoliadau gwaith yn gallu bod yn hollol hyblyg i ffitio dy fywyd di. Gallem arwyddo am oriau profiad gwaith neu tuag at wobrau fel Gwobr Dug Caeredin (DofE).

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, ond mae angen i ti fod rhwng 11-25 oed ac yn byw, gweithio, neu astudio yng Nghaerdydd.

Gallem gynnig hyfforddiant fydd yn helpu ti i gynyddu sgiliau mewn creu cynnwys, gan gynnwys:

- Fideo
- Golygu
- Ysgrifennu
- Graffeg
- Ysgrifennu i’r we
- Podlediad

Mae bod yn rhan o ymgyrch yn berffaith i unrhyw un sydd â diddordeb mewn newyddiaduraeth, cyfathrebu a marchnata, neu i rai fydda’n hoffi llwyfan i godi ymwybyddiaeth o faterion pwysig.

Cysyllta gyda ni ar e-bost info@thesprout.co.uk gydag enw llawn, dyddiad geni, ac ychydig o wybodaeth fer am yr hyn hoffet ti ei wneud yn TheSprout. Byddem yn cyfarfod gyda thi unai drwy alwad fideo neu wyneb i wyneb i drafod dy ddiddordebau, a sut gallem dy gefnogi orau.