Côr cymunedol ar gyfer merched a menywod o bob oedran yng Nghaerfyrddin a’r cyffiniau yw Tonic. Un o brif amcanion y côr yw canu mewn cyngherddau a digwyddiadau elusennol yn lleol a hefyd gystadlu mewn eisteddfodau bach a chenedlaethol. Amcan yr un mor bwysig yw’r elfen gymdeithasol sy’n rhan annatod o’r côr ac mae pawb yn gytûn bod canu yn hybu lles emosiynol ac iechyd meddwl ac yn hwb i’r enaid.
Nos Iau - 7pm - 8:30pm
Galw heibio
Hunangyfeirio
Atgyfeiriad gan asiantaeth
Trwy drefnu apwyntiad yn unig