Mae Teithio Ymlaen yn darparu cyngor, eiriolaeth a chefnogaeth i blant a theuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr ledled Cymru:
- Cyngor, cefnogaeth, eiriolaeth unigol a chymunedol yn gweithio ochr yn ochr â theuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr ar faterion fel llety, safleoedd, cynllunio, cydraddoldeb, hawliau a mynediad at wasanaethau
- Riportio a mynd i'r afael â throseddau casineb a gwahaniaethu a chael y cymorth a'r cyngor cywir i chi
- Hyfforddiant i wella gwasanaethau
- Cyngor a chefnogaeth i Roma Ewropeaidd ar sut i aros yng Nghymru ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.
Cysylltwch â ni: Rydym yn gweithio ledled Cymru ac yn croesawu pob ymholiad gan gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr neu gall ffrind/gweithiwr proffesiynol wneud ymholiad ar ran rhywun. Rhadffôn neu e-bost a byddwch yn cael yr aelod tîm perthnasol i chi. Mae Teithio Ymlaen yn rhan o TGP Cymru.