Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Gwasanaeth Cyngor ac Eiriolaeth Bro Morgannwg

Lleoliad

Visitable Address

96-98 Neville Street CF11 6LS

Cyfeiriad post

96-98 Neville Street CF11 6LS

Byddwch yn gallu cysylltu ag eiriolwr sy’n anfeirniadol, sy’n parchu anghenion, barn a phrofiadau pobl, ac a fydd yn gwrando, yn cynnig dewisiadau, yn eich cynrychioli a’ch grymuso.

Bydd eich eiriolwr yn eich cynorthwyo i gasglu gwybodaeth berthnasol a’i gyflwyno ichi mewn ffordd y gallwch ei ddeall er mwyn ichi gael gwneud eich dewisiadau a’ch penderfyniadau eich hunan.

Byddwn yn gweithredu ar eich cyfarwyddiadau chi yn unig, ac ni wnawn wneud unrhyw beth yn erbyn eich dymuniadau. Gallwch roi cyfarwyddyd i’ch eiriolwr i ysgrifennu llythyrau neu siarad ar y ffôn gyda phobl ar eich rhan.

Bydd eich eiriolwr yn gweithio i sicrhau eich bod yn cael eich cynrychioli yn y ffordd orau bosibl. Bydd eich eiriolwr yn eich cefnogi i eirioli drosoch chi eich hunan.