Mae’r Hwb Lles wedi ei greu drwy bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae’r Hwb Lles ar gyfer pawb yn Wrecsam, ac mae’n cynnig gwasanaethau a gweithgareddau i hybu eich lles.
Yma maent yn gallu darparu eu gwasanaethau mewn amgylchedd diogel er mwyn:
- gwella mynediad at wybodaeth, cyngor a chefnogaeth
- darparu datrysiadau ataliol ac amgen i ofal a chefnogaeth (gan ymdrin ag iechyd corfforol, iechyd meddwl a lles)