Canolfan Hanes y Wyrcws

Darparwyd gan
Wyrcws Llanfyllin

Un o'r tlotai Fictoraidd gorau sydd wedi goroesi ym Mhrydain a'r unig un yng Nghymru sydd ar agor i'r cyhoedd. Atyniad treftadaeth yn cynnwys amgueddfa fechan gydag arddangosfeydd dwyieithog ar fywyd y wyrcws; ffilm 30-munud, 'Ghosts of the Workhouse' yn Gymraeg neu Saesneg; llwybrau ymwelwyr a theuluoedd o amgylch y cyrtiau a rhai mannau mewnol. Gall plant wisgo gwisg wyrcws a phlicio ocwm. Siop lyfrau ail law ar agor.

Ymweliad hunan-dywys, ar agor bob dydd yn ddi-dâl: gwerthfawrogir rhodd. Gellir trefnu teithiau tywys: croeso arbennig i ymweliadau grŵp ac ysgolion trwy apwyntiad.

Amseroedd agor

Bob dydd 10 am. - 5 pm. Misoedd y gaeaf 10 am - 4 pm.

Dewisiadau Mynediad

Galw heibio

Hunangyfeirio

Atgyfeiriad gan asiantaeth

Trwy drefnu apwyntiad yn unig