Wedi’i leoli yn un o adeiladau tirnod Wrecsam ar Stryt y Rhaglaw, mae Gwasanaeth Treftadaeth ac Archifau Wrecsam yn gyfrifol am amgueddfeydd ac archifau’r fwrdeistref sirol.
Amgueddfa ac Archifau Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw’r man cychwyn ar gyfer darganfod hanes cyffrous y rhanbarth hwn ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Mae arddangosfeydd a chasgliadau’r Amgueddfa yn adrodd straeon ein cymunedau lleol a’u lle yng Nghymru a’r byd ehangach o’r cyfnod cynhanes hyd at heddiw.
Yr Archifau yw’r lle i ymchwilio i hanes eich teulu, eich cartref, eich cymdogaeth a hanes eich cyndeidiau.
Mae Gwasanaeth Treftadaeth ac Archifau Wrecsam, gyda chymorth gwirfoddolwyr a sefydliadau partner, hefyd yn gyfrifol am Benwisgoedd Glofa’r Bers, Gwaith Haearn y Bers, Castell Holt, Pyllau Plwm y Mwynglawdd a Pheiriandy Penrhos.