Mae In2Change yn brosiect cyffuriau ac alcohol cyfrinachol ac am ddim sy’n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11 ac 25 ar sail wirfoddol.
Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc o amgylch eu problemau cyffuriau ac alcohol gan ganolbwyntio ar beth rydych yn credu fyddai’n eich helpu chi ar hyn o bryd. Gallwn gwrdd â chi yn y siop INFO, gartref, yn yr ysgol/coleg neu yn y gymuned – lle bynnag rydych yn teimlo’n fwyaf cyfforddus. Gallai rhai o’r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi gynnwys:
Gwybodaeth a chyngor ar faterion sy’n ymwneud â defnyddio cyffuriau ac alcohol.
Cynyddu eich gwybodaeth am risgiau sy’n ymwneud â defnyddio cyffuriau ac alcohol.
Cefnogaeth i leihau neu roi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau ac alcohol.
Cefnogaeth o ran sut mae cyffuriau ac alcohol yn effeithio ar eich bywyd.
Galw heibio ‘Amser i Siarad’
Bob dydd Iau 3-5pm yn y Siop Wybodaeth. Cyfle i siarad â gweithiwr ieuenctid am unrhyw beth sydd ar eich meddwl!