Mae CAMFA14+ yn estyniad o’n gwasanaeth CAMFA, sy’n cefnogi pobl yn chwe sir Gogledd Cymru, sef Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae’n wasanaeth i bobl sy’n pryderu am eu defnydd cyffuriau ac / neu alcohol eu hunain ac angen cefnogaeth i barhau i fod yn rhydd o gyffuriau ac / neu alcohol. Rydym hefyd yn wasanaeth ar gyfer y rhai hynny sydd wedi eu heffeithio gan ddefnydd sylweddau aelod o’r teulu.
Gellir darparu’r gwasanaeth hwn naill ai wyneb-yn-wyneb, ar-lein, neu dros y ffôn, rhwng dydd Llun a dydd Gwener, rhwng yr oriau 9yb a 5yp. Ond rydym hefyd yn cynnig rhai apwyntiadau gyda’r nos, i ddiwallu anghenion pobl.