Mae Dy Le Di yn elusen sy’n cefnogi teuluoedd hefo plant ar y Sbectrwm Awtistig Mae Ystafell Synhwyraidd Dy Le Di i unrhyw un ei defnyddio yn ystod y tymor. Gellir ei ddefnyddio gan rieni / gofalwyr, ysgolion, grwpiau a gweithwyr proffesiynol.
Mae'r ystafell yn cynnwys twnnel anfeidredd, system trawst cerddoriaeth ryngweithiol, pad wal creu cerddoriaeth, FanLite sy’n cael ei ysgogi gan sŵn a thaflunydd delwedd a thiwb swigen gyda drych, llinynnau ffibr optig (ddim yn cael eu defnyddio), wal swigen ryngweithiol, llwyfan fibro-acwstig, carped wal ffibr optig a synau lleddfol.