Cyngor ar Bopeth Merthyr Tudful

Rydym yn elusen gofrestredig sy'n cynnig cyngor annibynnol, cyfrinachol a diduedd am ddim, ac yn ymgyrchu ar faterion mawr sy'n effeithio ar fywydau pobl. Ein nod yw helpu pawb i ddod o hyd i ffordd ymlaen, ni waeth pwy ydych chi, beth yw eich sefyllfa, a pha bynnag broblemau y gallech eu hwynebu.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth, yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaethu lle bynnag yr ydym yn ei weld ac yn ymgyrchu i wella'r polisïau a'r arferion sy'n effeithio ar fywydau pobl.