PACEY Cymru

Cymdeithas Broffesiynol Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar yw PACEY. Wedi’i ffurfioyn 1977, rydym yn elusen sy’n ymroddedig i gefnogi pawb sy’n gweithio ym maes gofal plant a’r blynyddoedd cynnar i ddarparu gofal o ansawdd uchel a dysgu cynnar i blant a theuluoedd.

Rydym yn darparu hyfforddiant, cymorth ymarferol a chyngor arbenigol i
ymarferwyr sy'n gweithio ledled Cymru a Lloegr.

Ein cenhadaeth yw cefnogi pawb sy’n gweithio ym maes gofal plant a’r blynyddoedd
cynnar i ddarparu gwasanaethau, gwybodaeth a chyngor o ansawdd uchel i blant, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

Mae PACEY Cymru yn rhan annatod o PACEY sy’n darparu gwasanaeth ymrwymedig
yng Nghymru i’n haelodau, pob gofalwr plant arall a’n partneriaid, gan gynnwys
awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a’u hasiantaethau statudol.