Hysbysiad Preifatrwydd infoengine

Mai 2018


Mae infoengine wedi ymrwymo i barchu a diogelu hawliau preifatrwydd unigolion.


Mae’r hysbysiad hwn yn egluro pryd a pham fyddwn yn casglu gwybodaeth bersonol am bobl sy’n ymweld ag neu’n lanlwytho manylion gwasanaethau ar wefan infoengine, sut a pham fyddwn yn defnyddio’r data yma, yr amodau pan fyddwn yn ei ddatgelu i eraill efallai, a sut byddwn yn ei gadw’n ddiogel.


Hwyrach y byddwn yn diweddaru’r hysbysiad hwn o dro i dro, felly dylid gwirio’r dudalen hon yn achlysurol i sicrhau eich bod yn fodlon gydag unrhyw newidiadau. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno i lynu wrth yr hysbysiad hwn.   


Dylid e-bostio unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad hwn a’n harferion preifatrwydd at: infoengine@pavo.org.uk neu gellir ysgrifennu at: infoengine, PAVO, 30 Heol Ddole, Llandrindod, Powys, LD1 6DF.  Fel arall, gellir ffonio 01597 822191.


Pwy ydym ni?


infoengine yw cyfeiriadur ar-lein Cymorth Trydydd Sector Cymru (TSSW) o wasanaethau trydydd sector ar hyd a lled Cymru. Caiff ei reoli gan y partneriaid canlynol:-


Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys

Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion

Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr

Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro

Cyngor Sir Powys


Y partneriaid hyn yw rheolyddion data unrhyw wybodaeth bersonol ar infoengine.


Mae partneriaid defnyddwyr TSSW, nad ydynt yn gysylltiedig â rheoli’r system, fel a ganlyn:- 


Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe. 

Cyngor Gwirfoddol Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. 

Cyngor Gwirfoddol Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Cyngor Trydydd Sector Caerdydd

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy

Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych

Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir Fflint

Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent 

Mantell Gwynedd

Medrwn Môn

Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful

Interlink Rhondda Cynon Taf

Cynghrair Gwirfoddol Torfaen

Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg


Pa wybodaeth ydym yn ei chasglu amdanoch, sut a pham?


Cwcis


O safbwynt llawer o bobl sy’n ymweld â’n gwefan, nid ydym yn casglu unrhyw wybodaeth.  Er hynny, pan fyddwn yn darparu gwasanaethau, rydym am sicrhau eu bod yn rhwydd, defnyddiol a dibynadwy. Weithiau bydd hyn yn golygu gosod rhywfaint o wybodaeth ar eich dyfais, megis cyfrifiadur neu ffôn symudol. Mae’r rhain yn cynnwys ffeiliau bach a elwir cwcis.


Nid yw ein cwcis yn cynnwys unrhyw ddata sy’n benodol i’r unigolyn, felly diogelir eich preifatrwydd. Nid ydynt yn cynnwys eich cyfeiriad ebost, ac nid ydynt yn dweud wrthym pwy ydych.


Defnyddir cwcis i fonitro ein gwefan, defnydd ohoni, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr a’r tudalennau a welwyd. Hefyd rydym yn defnyddio cwcis i wella profiad y defnyddiwr tra byddwch ar ein gwefan, gan gynnwys:


  • Galluogi gwasanaeth i adnabod eich dyfais fel nad oes rhaid ichi roi’r un wybodaeth yn ystod un dasg
  • Cydnabod eich bod eisoes wedi rhoi enw defnyddiwr a chyfrinair, felly nid oes rhaid eu rhoi ar gyfer pob tudalen rydych yn gofyn ei gweld


Sut gallaf atal cwcis, a beth fydd effaith gwneud hyn?


Gallwch atal defnyddio cwcis ar eich cyfrifiadur trwy ffurfweddu eich porwr i beidio eu derbyn. Fodd bynnag, er mwyn gwneud y defnydd gorau o’n gwefan, bydd angen galluogi cwcis. Dylid cyfeirio at fodd chwilio ‘help’ eich porwr am wybodaeth ar sut i alluogi ac analluogi cwcis.

Os ydy cwcis ar eich system yn barod, gellir eu dileu – Am fwy o fanylion ar ddileu cwcis ewch at: http://www.aboutcookies.org.uk/managing-cookiesNoder: gall dileu cwcis penodol arwain at anawsterau wrth lywio gwefannau.


Os ydych yn chwilio am wasanaethau yn eich ardal leol


Yr unig dro byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch os ydych yn ymweld â’n gwefan i chwilio am wasanaethau, yw os byddwch yn creu rhestr fer.  Wedyn byddwn yn gofyn am eich cyfeiriad ebost er mwyn gallu anfon diweddariadau i’ch rhestr fer. Mae angen inni gadw’r wybodaeth yma i allu cyflenwi’r gwasanaeth diweddaru yma.  Mae hwn yn ddiben cyfreithiol er mwyn gallu prosesu eich gwybodaeth, ac ni fyddwn yn defnyddio’r wybodaeth yma i gysylltu â chi at unrhyw ddiben arall.  


Os ydych yn penderfynu nad ydych am dderbyn diweddariadau i’ch rhestr fer bellach, dylech gysylltu â infoengine@pavo.org.uk neu ysgrifennwch at: infoengine, PAVO, 30 Heol Ddole, Llandrindod, Powys, LD1 6DF a byddwn yn tynnu eich manylion cyswllt oddi ar y system.  


Os ydych yn cofrestru sefydliad 


Os byddwch yn ymweld â’r wefan i gofrestru eich sefydliad, bydd angen inni gasglu gwybodaeth am eich sefydliad er mwyn ei chyhoeddi ar y wefan, ac i bobl gael mynediad at eich gwasanaethau. Caiff yr holl wybodaeth a roddir gennych am eich gwasanaethau, gan gynnwys cyfeiriad a manylion cyswllt y sefydliad, ei harddangos. Os byddwch yn rhoi cyfeiriad ebost gwaith sy’n cynnwys eich enw, mae hyn yn wybodaeth bersonol. Os nad ydych am gyhoeddi’r wybodaeth yma, byddem yn argymell sefydlu cyfeiriad ebost generig megis info@.. neu enquiries@.. yn lle.   


Byddwn hefyd yn defnyddio eich manylion cyswllt i anfon hysbysiadau awtomatig i ddiweddaru manylion bob chwe mis, er mwyn ichi allu cadarnhau manylion eich gwasanaeth a’u bod yn gyfredol ac yn gywir. Os nad ydych yn ymateb i’r hysbysiadau hyn, byddwn yn defnyddio manylion cyswllt eraill a roddwyd gennych yn ystod y broses gofrestru i gadarnhau os ydy’ch sefydliad yn dymuno parhau i gofrestru ar infoengine.  Os nad yw’n dymuno parhau gyda’r cofrestriad, byddwn yn dileu’r holl wybodaeth a ddarparwyd yn ystod y broses gofrestru.  Noder: gallwch ddileu eich sefydliad o’r system unrhyw adeg, naill ai drwy fewngofnodi, neu drwy gysylltu â: infoengine@pavo.org.uk.   


Dyma’r dibenion cyfreithiol er mwyn gallu prosesu eich gwybodaeth, ac ni fyddwn yn defnyddio’r wybodaeth yma i gysylltu â chi at unrhyw ddiben arall.    


Noder: o dan delerau ac amodau cofrestru, mae pob sefydliad unigol yn gyfrifol am gywirdeb yr wybodaeth a ddangosir ar y wefan, ac mae gofyn diweddaru’r wybodaeth yma fel bo angen i sicrhau ei bod yn gyfredol.  


Gyda phwy gaiff yr wybodaeth ei rhannu?


Manylion cyswllt Rhestr fer


Rhennir yr wybodaeth yma gyda rheolwyr y wefan, 3ev, The Workshop, 11 Queens Place, Hove, BN3 2LT, fydd yn cadw’r wybodaeth ar eu gweinyddwyr yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, a gellir ei defnyddio yn ystod swyddogaethau gweinyddol a chynnal a chadw. 


Manylion cyswllt y sefydliad


Rhennir yr wybodaeth yma gyda 3ev at ddiben storio, gweinyddu a chynnal a chadw, a chaiff ei harddangos ar infoengine, er mwyn i ymwelwyr ei gweld wrth ymweld â’r safle.


Sut byddwn yn diogelu eich gwybodaeth?


Mae mesurau gweinyddol, technegol a chorfforol mewn bodolaeth, ar ein gwefan ac yn fewnol, er mwyn diogelu yn erbyn a lleihau cymaint â phosib y risg o golled, camddefnyddio neu brosesu neu ddatgelu anawdurdodedig yr wybodaeth bersonol sydd gennym.


Eich hawliau


Fel unigolyn, mae gennych hawliau gellir eu hymarfer mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch. Maent fel a ganlyn:-


  • Hawl i gael mynediad at gopi o’r wybodaeth sydd yn eich data personol
  • Hawl i wrthwynebu prosesu sy’n debygol o achosi neu sy’n achosi niwed neu drallod
  • Hawl i atal prosesu rhag marchnata uniongyrchol
  • Hawl i wrthwynebu penderfyniadau a wneir trwy ddulliau awtomatig
  • Hawl mewn amgylchiadau penodol i gywiro, atal, dileu neu ddinistrio data personol anghywir
  • Hawl i hawlio iawndal ar gyfer niwed a achoswyd gan dorri’r Ddeddf Diogelu Data.


Gellir darllen mwy am yr hawliau hyn yma.


Cysylltu â ni


Os hoffech gysylltu er mwyn trafod y polisi hwn, neu sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, i arfer eich hawliau neu i roi adborth neu i gwyno am ddefnydd o’ch gwybodaeth dylid cysylltu ag:-


Angela Owen, Pennaeth Gwasanaethau Mewnol

PAVO, Plas Dolerw, Ffordd Milford, Y Drenewydd, Powys, SY16 2EH

angela.owen@pavo.org.uk

01686 626220


Hefyd gallwch gysylltu â swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yma: https://ico.org.uk/ am wybodaeth, cyngor neu i gofrestru cwyn.