Sefydlwyd 2wish yn 2012 i gefnogi rhieni, brodyr a chwiorydd ac aelodau eraill y teulu sydd wedi eu heffeithio gan farwolaeth sydyn ac annisgwyl plentyn neu oedolyn ifanc 25 oed neu’n iau.
Pan fydd teulu’n colli plentyn neu oedolyn ifanc mae’r effeithiau’n ddinistriol iawn i bawb oedd yn eu nabod nhw ac yn eu caru nhw. Mae’n hanfodol bod cymorth ar gael pan fydd pobl ei angen. Mae’n bwysig bod teuluoedd yn gwybod nad ydynt ar eu pennau eu hunain a bod y teimladau y maent yn eu teimlo’n normal iawn fel arfer. Mae’n hanfodol hefyd bod cyfathrebu’n digwydd rhwng y teulu, staff yr ysbyty ac aelodau’r heddlu fel bod teuluoedd yn deall beth sy’n mynd i ddigwydd yn y dyddiau a’r wythnosau sy’n dilyn eu profedigaeth.