Mae gwasanaeth Llety â Chymorth Adferiad yn cael ei ddarparu i breswylwyr sy’n dioddef salwch meddwl difrifol ac sydd ag anghenion sy’n gysylltiedig â thai ar draws tri adeilad llety â chymorth ac un fflat un denantiaeth ym mwrdeistref sirol Wrecsam. Darperir y prosiect cymorth tai hwn yn Wrecsam dros saith diwrnod yr wythnos rhwng 9yb ac 8yh (mae un o’r adeiladau a’r fflat tenantiaeth sengl yn derbyn cyswllt / ymweliadau dyddiol pan fydd y preswylwyr ei angen). Mae’r prosiect hwn wedi bod o fudd i unigolion drwy eu galluogi i weithio ar eu sgiliau bywyd bob dydd a’u galluogi i symud ymlaen tuag at fyw’n annibynnol, atal ailwaelu a digartrefedd.