Cymorth i deuluoedd sy'n mabwysiadu ar bob cam o’u taith fabwysiadu.
Os ydych chi’n byw yng Nghymru ac yn rhiant sy’n mabwysiadu neu’n ystyried mabwysiadu, neu os ydych yn cefnogi teulu sy’n mabwysiadu, cysylltwch â'n swyddfa bwrpasol. Byddant yn eich rhoi mewn cysylltiad â'ch cydgysylltydd cymuned fabwysiadu leol ac yn dweud wrthych am y cymorth sydd ar gael yn eich ardal. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant ar bynciau sy’n ymwneud â mabwysiadu yn rhad ac am ddim neu am gost isel. Ymunwch ag Adoption UK i fanteisio ar ystod eang o adnoddau ar-lein ac all-lein ac i ddod yn rhan o gymuned enfawr o deuluoedd sy'n mabwysiadu ledled y DU. Rydym hefyd yn darparu grwpiau i bobl ifanc wedi'u mabwysiadu sydd rhwng 7 a 30 oed.