Bydd cyfranogwyr yn rhydd i weithio mewn unrhyw gyfrwng. Byddwn yn dysgu am dechnegau a hanes celf, a bydd arddangosfa ar ddiwedd y cwrs fel bod aelodau'n gallu gweld eu gwaith gorffenedig mewn lleoliad oriel.
Nod y cwrs yw hybu hyder trwy gelf a hefyd i gefnogi myfyrwyr ym meini prawf celf. Croesewir pob lefel, o amatur i broffesiynol. Byddwn yn cadw'r sesiynau yn hwyl a chyfeillgar gyda phwyslais ar y stiwdio yn lle diogel i rannu syniadau a theimladau tuag at y gwaith.