Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Age Cymru Eiriolaeth Dementia

Mae ein project eiriolaeth dementia annibynnol yn ymwneud â galluogi pobl sydd a diagnosis o ddementia i gael mynediad at wasanaethau a chefnogaeth y mae eu hangen arnynt a chael llais mewn penderfyniadau sy'n cael eu gwneud. Mae’r prosiect yma i’w cefnogi gyda sefyllfaoedd lle gallent gael eu cam-drin ac angen dod o hyd i ffordd o ddiogelu eu hun.

Bydd yr eiriolaeth rydyn ni'n ei gynnig yn annibynnol o unrhyw wasanaeth arall y mae pobl sy'n byw gyda dementia yn ei ddefnyddio. Mae hyn yn golygu y bydd yr unigolyn â dementia wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, a gallwn eu cefnogi a'u cynrychioli heb unrhyw wrthdaro buddiannau.