Mae Age Cymru Gwynedd a Môn yn darparu gwasanaeth siopa cefnogol yng Ngwynedd wedi ei gomisiynu gan Cyngor Gwynedd drwy y Cynllun Cefnogi Pobl. Er mwyn bod yn gymwys am ystyriaeth, rhaid i unrhyw ddarpar ddefnyddiwr o'r gwasanaeth fod yn derbyn Budd-dal Tai.
Mae'r gwasanaeth yn golygu aelod o Dîm Gofal Personol Age Cymru Gwynedd a Môn yn ymgymryd gyda dyletswyddau siopa ar ran yr unigolyn sydd yn gymwys ar gyfer derbyn y gwasanaeth. Mae'r dyletswyddau siopa yn cynnwys aelod staff Age Cymru Gwynedd a Môn yn cynorthwyo'r unigolyn i fynd a hwy i siopa a'u cynorthwyo gyda chwilio am fwyd maethlon.