Mae statws gweithredol y Canolfannau yn nhermau ail-agor o ganlyniad i lacio'r rheoliadau Covid-19, am amrywio o un Ganolfan i'r llall felly awgrymir cyswllt uniongyrchol gyda'r Ganolfan benodol o ran canfod yr oriau agor/gweithgareddau sydd ar gael.
Mae’r Canolfannau’n cael eu datblygu er mwyn hyrwyddo lles a chreu cyfleoedd cyfarfod cymdeithasol ar gyfer y rhai dros 50 mlwydd oed sydd yn byw yng nghymunedau Gwynedd ac Ynys Môn. Maent yn darparu gweithgareddau o’ch dewis, ac yn gyfle i eistedd a chael paned a sgwrs, mewn lleoliad cymunedol lleol.
Ble mae’r Canolfannau?
- Bontnewydd
- Nefyn
- Y Bala
- Dolgellau
- Cricieth
- Penrhyndeudraeth
- Blaenau Ffestiniog
- Llanrug
- Brynsiencyn
- Abersoch
- Aberdyfi
Mae Canolfannau Heneiddio'n Dda Llangefni ac Amlwch yn cael eu rhedeg gan Age Well Hwyliog Môn https://agewellhwyliogmon.org.uk