Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Grantiau Amser i Ofalwyr Iechyd Meddwl

Mae Amser yn cefnogi gofalwyr di-dâl i gael mynediad i seibiannau byr creadigol, hyblyg sydd wedi eu personoleiddio. Bydd yn darparu seibiannau byr sy’n gwella gwytnwch a llesiant y gwirfoddolwyr ac yn cefnogi cynaladwyedd perthynas ofalu’r gofalwr. Mae Amser yn rhan o’r Cynllun Seibiannau Byr ar gyfer gofalwyr di-dâl ac yn anelu i alluogi 30,000 o ofalwyr i gymryd seibiant o ofalu erbyn 2025. Mae’r grantiau Amser yn rhoi’r cyfle i ofalwyr i f laenoriaethu eu llesiant ac i gymryd seibiant o’u rôl gofalu. Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae’r grantiau a roddwyd yn cynnwys diwrnodau spa, aelodaeth i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, teithiau theatr a gweithdai crochenwaith. Dywed y staff fod cael y grant o fudd enfawr i ofalwyr. Mae’n ein galluogi i gynnig seibiant sydd wir ei angen i ofalwyr pan maent yn cael trafferth neu wedi blino’n lân. Teimlai gofalwyr yn aml nad oes unrhyw gymorth ar gael, felly pan allwn ni gynnig y grant yma, mae’n gwneud gwahaniaeth enfawr iddynt.