Cyswllt Celf

Darparwyd gan
Cyswllt Celf

Sefydliad celf cymunedol ysbrydol yw Cyswllt Celf, sy'n gweithio yng Ngogledd Powys, Wreham ac ar hyd y cymunedau ar y ffin. Rydym yn derbyn arian refeniw oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru, ac wedi darparu prosiectau celf cyfranogol, uchel eu hansawdd, mewn ystod eang o gyfryngau celfyddydol ers 1994. Mae ein gwaith gydag ysgolion, plant, pobl ifanc, pobl sydd ag anableddau dysgu a'r gymuned ehangach yn cynnig mwy o gyfleoedd i gyfrannu a chymryd rhan, ac mae'n rhoi cyflwyniad dwyieithog, cynnes ei groeso, i'r celfyddydau.

Rydym yn rhoi cyfleoedd i artistiaid mewn cyfryngau o bob math ddatblygu prosiectau celf arloesol o fewn y gymuned leol ac ar lefel ehangach, trwy weithredu fel brocer rhwng artistiaid, mudiadau a chyrff diwylliannol amrywiol. Mae gennym bortffolio helaeth, rydym yn uchelgeisiol, ac mae ein statws heb ei ail.

Cymerwch amser i edrych ar ein safle. Gadewch inni wybod beth yw eich barn. Cysylltwch â ni os ydych o'r farn y gallwn eich cynorthwyo chi i ddatblygu prosiect, neu fel artist eich hunan.

Mae ein portffolio yn helaeth, ein huchelgais yn uchel, a'n statws heb ei ail.