Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Banc Bwndel Babi Plant Dewi - Sir gaerfyrddin

Rydym yn darparu adnoddau ac offer i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i eitemau hanfodol ar gyfer eu babi. Mae bwndeli wedi'u teilwra'n arbennig yn dibynnu ar ofynion y teulu a gallant gynnwys dillad babanod, pethau ymolchi, blancedi, tywelion, cewynnau a dillad gwely. Gellir darparu eitemau eraill yn amodol ar argaeledd h.y. pramiau, cadeiriau gwthio, basgedi Moses, cotiau, baddonau babanod a chadeiriau.