Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Gwasanaeth Olrhain Teulu Rhyngwladol y Groes Goch Brydeinig Gogledd Cymru

Gall ein gwasanaeth olrhain teulu rhyngwladol, cyfrinachol ac am ddim helpu i ddod o hyd i'ch teulu os nad ydych wedi gallu cysylltu â nhw eich hun. Efallai y byddwn yn gallu eich helpu os ydych yn y DU ac eisiau:

Dod o hyd i'ch teulu sydd ar goll
Cysylltu ag aelod o'r teulu (anfon neges ond nid arian neu becynnau)
Cael tystysgrif cadw ar gyfer y rhai sydd wedi cael eu carcharu
Rydym yn helpu teuluoedd i ailgysylltu ag anwyliaid coll sydd wedi colli cysylltiad oherwydd gwrthdaro arfog, ymfudo a thrychineb. Mae hyn yn cynnwys dod o hyd i bartneriaid pobl nad ydynt yn briod a'r rhai sy'n chwilio am eu partneriaid o'r un rhyw.

Bwriad ein gwasanaeth yw helpu i ddod o hyd i deulu coll ac ni allwn roi llythyrau i chi am dystiolaeth mewn nachosion swyddogol.