Mae Gofalu am Gaerffili yn darparu porth unigol i'r Cyngor ar gyfer trigolion sydd angen cymorth. Mae ein tîm ‘brysbennu’ cyfeillgar yn asesu ystod lawn o anghenion cymorth (boed hynny'n gymorth ariannol, cymorth o ran teimlo'n ynysig neu deimlo'n unig, tlodi bwyd ac ati) ac yn cyfeirio at yr adrannau/partneriaid perthnasol yn ôl yr angen. Ein nod yw gwella'r nifer fawr o lwybrau cymorth sydd ar gael i drigolion y Fwrdeistref Sirol trwy'r cyfnodau anodd y maen nhw, o bosibl, yn eu hwynebu.
Nod y tîm Gofalu am Gaerffili yw helpu ein trigolion i fynd at wraidd eu problem, sy'n golygu nad oes angen dweud eu hanes sawl gwaith wrth lawer o wahanol adrannau. Mae'r tîm yn gweithredu fel un pwynt cyswllt, gan helpu unigolion ar eu taith gymorth o'r dechrau i'r diwedd.
Mae Cysylltwyr Cymunedol Caerffili yn cefnogi'r gwaith o fewn gwasanaeth Gofal Caerffili.