Nod y cysylltydd cymunedol yw lleihau unigrwydd a gwella lles trwy gynorthwyo pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol neu ddysgu.
Mae cysylltwyr yn rhoi grym i bobl drwy roi gwybodaeth a chyngor iddynt. Maent yn ymweld â phobl yn eu cartrefi eu hunain fel y gallant ddod i adnabod nhw. Gallant helpu pobl i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw. Gallant ailgysylltu pobl i'w cymunedau trwy eu cyflwyno i grwpiau cymdeithasol newydd; cyflwyno pobl i hobi newydd neu eu helpu i wirfoddoli yn eu cymuned. Gallant gyfeirio unigolion at y gwasanaeth mwyaf priodol i'w helpu i fodloni eu hanghenion.
O ran grwpiau a sefydliadau, gall cysylltwyr cymunedol eu helpu i ddod o hyd i leoliadau neu wirfoddolwyr i'w helpu i'w rhedeg.
Mae cysylltwyr hefyd yn helpu cymunedau i ddatblygu, tyfu a dod yn fwy hunan-ddigonol trwy feithrin perthynas â phobl allweddol a'u cysylltu â'i gilydd. Gallant weithio gyda chymunedau i nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth a helpu i lenwi'r bylchau hynny