Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfeirio ar gyfer gwybodaeth, digwyddiadau a gwasanaethau a fydd yn helpu gofalwyr di-dâl pobl ag anabledd dysgu. Rydym yn cefnogi teuluoedd trwy gynnal digwyddiadau gwybodaeth, gweithdai, gweithgareddau cymdeithasol a digwyddiadau hyfforddi. Rydym hefyd yn cynnal cyfarfodydd cymdeithasol anffurfiol a boreau coffi am ddim lle gall teuluoedd rannu syniadau, dysgu oddi wrth ei gilydd a chael hwyl. Rydym yn cynrychioli barn ein gofalwyr mewn ymgynghoriadau ac ar lefel strategol yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Rydym yn eirioli dros ofalwyr a theuluoedd sy’n ofalwyr gydol oes o ddiagnosis cynnar i asesiadau ac yn ddiweddarach mewn bywyd.
Rydym yn cydweithio’n rheolaidd gyda Pedal Power yng Nghaerdydd, i gynnig taith feicio (gyda choffi a chacen) i ofalwyr di-dâl ar y 3ydd dydd Iau o bob mis. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y sesiynau Pedal Power hyn.