Mae gan Bwll a Champfa Rhyngwladol Caerdydd ymagwedd gyfeillgar a chynhwysol tuag at ffitrwydd. Gan gefnogi pob oed a gallu, rydyn ni wedi’n lleoli yng nghalon Bae Caerdydd. Rydyn ni yma i'ch helpu i gwrdd â'ch nodau ffitrwydd gyda champfa eang, pwll nofio 50m, dosbarthiadau ymarfer corff grŵp ac ystafell iechyd.