Rydym yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant ac yn Elusen Gofrestredig. Ein nod yw darparu ystod o wasanaethau yn y gymuned i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl neu sy'n profi problemau iechyd meddwl. Ar hyn o bryd rydym yn cynnig gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio i alluogi pobl i adennill neu gynnal eu hannibyniaeth trwy gymryd rheolaeth o'u bywydau eu hunain a rheoli eu hiechyd a'u lles. Ar hyn o bryd rydym yn darparu llety â chymorth, cymorth i denantiaid yn eu cartrefi eu hunain, cwnsela a Gweithredu dros Fyw. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi i unigolion a sefydliadau.