Gwella Cartrefi, Newid Bywydau
Cyngor a chymorth i drwsio neu addasu eu cartrefi
Mae Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn darparu arbenigedd, cyngor a chymorth ymarferol i bobl hŷn neu bobl ag anableddau sydd angen gwneud atgyweiriadau, adnewyddu neu addasiadau i'w cartref. Rydym yn gwneud hyn i helpu pobl i barhau i fyw gartref yn annibynnol,
yn gyfforddus, yn ddiogel ac yn saff.
Rydym yn cynnig:
- addasiadau bach e.e. cledrau cydio, rampiau, rheiliau allanol, rheiliau grisiau
- cefnogaeth gydag addasiadau mwy e.e. cawodydd mynediad gwastad, lifftiau grisiau
- Cyngor ar Ynni Cartref
- Cymorth gwaith achos arbenigol i'r rhai dros 50 oed sydd â nam ar y synhwyrau, dementia neu sy'n gwella o strôc
- Cymorth gwaith achos arbenigol i'r rhai dros 50 oed sydd â chysylltiadau ag amaethyddiaeth a ffermio