I'r rhai sy'n gofalu am rywun sy'n byw gyda dementia.
Mae’r sesiynau’n rhedeg am 10 wythnos gan ddechrau dydd Mercher 22 Ionawr 2025 10:30 a.m. - 12:00 p.m. a bydd yn digwydd yn bersonol yn Ymddiriedolaeth Gymunedol Neuadd Llanrhymni, Ball Road, Llanrhymni, Caerdydd. CF3 4JJA
Bydd y mathau o sesiynau yr ymdrinnir â hwy yn amrywio dros y cyfnod o ddeg wythnos a gwahoddir siaradwyr gwadd amrywiol.
Bydd cyfle i drafod profiadau a rennir, y pethau cadarnhaol a heriau o fod yn ofalwr a chyfle i rannu awgrymiadau a strategaethau ymdopi. Bydd rhai sesiynau hefyd lle bydd siaradwyr gwadd yn cynnig gwybodaeth a chyngor ar bynciau a allai fod o gymorth.
(Byddwn yn cynnal grŵp gweithgaredd ochr yn ochr, mewn ystafell ar wahân, y mae croeso i’r person rydych yn gofalu amdano ei fynychu ar yr un pryd).