Mae Gwasanaeth Adfer ar ôl Strôc, Sir Gaerfyrddin, yn darparu gwybodaeth o ansawdd uchel, cyngor ymarferol a chefnogaeth emosiynol yn dilyn strôc. P'un a ydych yn oroeswr strôc, yn ofalwr neu'n aelod o'r teulu, byddwn yn dechrau gweithio gyda chi ar ôl strôc. Byddwn yn parhau i ddarparu'r cymorth sydd ei angen arnoch, yn y cartref ac yn y gymuned ehangach.
Mae’r gwasanaeth yma’n cynnig:
- cefnogaeth wedi'i chydlynu trwy gydol eich taith strôc
- ymweliadau cartref
- taflenni, taflenni ffeithiau a gwybodaeth am Grantiau Bywyd ar ôl Strôc a budd-daliadau
- cymorth i ddychwelyd i'r gwaith
- cymorth i gael mynediad at weithgareddau hamdden a chymdeithasol lleol
- cymorth i ofalwyr, a chysylltiadau â sefydliadau a rhwydweithiau eraill.