Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Dechrau'n Deg Ceredigion - Nôl ac Ymlaen a Dewch i Chwarae

Mae'r dull Nôl ac Ymlaen a Dewch i Chwarae wedi'i gynllunio i gefnogi datblygiad iaith plant ifanc o dan 4 oed.

Bydd Gweithiwr Teulu yn eich cefnogi i adnabod cryfderau.

Fel arfer mae sesiynau'n para awr, ac mae 4 sesiwn wythnosol yn y cartref.

Gyda Nôl ac Ymlaen, bydd fideo yn cael ei wneud ohonoch yn rhyngweithio â'ch plentyn. (Nid oes fideo yn cael ei wneud yn Dewch i Chwarae).

Bydd Gweithiwr Teulu yn eich cefnogi i sefydlu nodau i ganolbwyntio arnynt bob wythnos.

Nod:
Cefnogi rhieni i ddatblygu ffyrdd ymatebol o ymwneud â’u plentyn yn seiliedig ar eu cryfderau presennol .
Darparu dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth i'w ddefnyddio gyda theuluoedd a allai gael budd o ymyrraeth wedi'i thargedu.

Beth fydd yn digwydd wedyn?

Ar ôl cwblhau'r cyrsiau yma, bydd y Gweithiwr Teulu yn trafod y cynnydd gyda chi a'r person wnaeth eich cyfeirio ac yn penderfynu ar y cam nesaf.