Mae Tŷ Hyrwyddwyr yn hwb darpariaeth adferiad yn Wrecsam sy’n gweithio ochr yn ochr gyda darparwyr gwasanaeth eraill Adferiad. Mae ein gwasanaeth yn cynnig amgylchedd creadigol, gweithredol a chefnogol i bobl sydd wedi dioddef o gaethiwed ac / neu iechyd meddwl. Mae’r prosiect yn darparu cymuned cydgefnogaeth i unrhyw un sy’n edrych tuag at ddyfodol heb gaethiwed ac i wella llesiant meddyliol. Mae’r adeilad hefyd yn ganolfan ar gyfer gweithgareddau cefnogaeth eraill Adferiad megis cwnsela, Cyfle Cymru, a Prison in Reach. Mae Tŷ Hyrywddwyr yn cynnal amrywiaeth o gyrsiau, grwpiau a digwyddiadau drwy gydol yr wythnos i helpu i adeiladu cyfalaf adferiad ac i edrych tua’r dyfodol. Rydym hefyd yn cynnal grwpiau cydgefnogaeth; mae yna amserlen ddigwyddiadau y gall pobl ei chaffael o Dŷ Hyrwyddwyr, a bydd hon yn cael ei diweddaru yn ôl yr angen.