Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu cyngor cyfrinachol ac annibynnol am ddim i helpu pobl oresgyn eu problemau.
Rydym yn llais i’n cleientiaid â’n defnyddwyr ar y materion sy’n bwysig iddynt.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth, hyrwyddo cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaethu. Rydym ni yma i bawb.
Yn ogystal â’n gwybodaeth ar-lein, gellir rhoi cyngor yn bersonol (wyneb yn wyneb), dros y ffon neu dros we-sgwrs. Gall rhai Cyngor ar Bopeth lleol drefnu ymweliadau cartref ac mae rhai yn darparu cyngor e-bost. Chwiliwch am eich Cyngor ar Bopeth lleol ar ein gwefan i weld yr ystod lawn o wasanaethau y mae’n eu darparu.
Rydym yn cynnig cyngor ar faterion megis:
Budd-daliadau
Gwaith a Chyflogaeth
Dyled ac arian
Materion defnyddwyr
Tai
Y gyfraith a llysoedd
Mewnfudo
Iechyd
Rydym hefyd yn cynnig gwybodaeth a chyngor ar sgiliau atal megis addysg defnyddwyr a sgiliau ariannol.