Mae Cyngor ar Bopeth Wrecsam yn darparu cyngor annibynnol, cyfrinachol a diduedd am ddim ar unrhyw fater a ddaw i ni.
Mae gennym gynghorwyr arbenigol sy’n rhoi arweiniad ar faterion mwy cymhleth fel problemau ariannol, ymholiadau budd-daliadau, ymholiadau ynni.
Prosiect Grym ar gyfer Ynni: Mae'r prosiect ar gyfer Cyn-filwyr a’u teuluoedd sydd angen cymorth gyda’u biliau ynni. Gall ein gweithiwr achos, sydd hefyd yn Gyn-filwr, roi cymorth i gael taleb tanwydd, helpu i ddatrys problemau gyda darparwyr ynni, rhoi cyngor ar ba grantiau neu fudd-daliadau a allai fod ar gael a chynghori ar sut i arbed arian ar eich biliau ynni.
#Eiriolaeth