Gwasanaeth Cymorth Cyfathrebu
Mae problemau cyfathrebu’n gyffredin ar ôl strôc. Efallai y byddwch chi’n cael problemau siarad, darllen, ysgrifennu a deall yr hyn y mae pobl eraill yn ei ddweud.
Os oes gennych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod affasia neu anhawster cyfathrebu arall ar ôl strôc, rydyn ni yma i’ch cefnogi chi i fagu hyder a dod o hyd i ffyrdd newydd o gyfathrebu.
Rydyn ni’n cynnig:
• Adolygiad wedi’i bersonoli o’r hyn sy’n bwysig i chi.
• Cefnogaeth un-i-un a chymorth mewn grŵp.
• Ymarfer cyfathrebu mewn amgylchedd cefnogol.
• Gwybodaeth am affasia ac anawsterau cyfathrebu eraill.
• Awgrymiadau i gefnogi eich adferiad.
• Cyfle i rannu profiadau a gwneud ffrindiau newydd.
• Help i gael mynediad i weithgareddau hamdden a chymdeithasol lleol.