Mae Cymunedau dros Waith yn brosiect gwirfoddol, lle gallwn gynnig cymorth, cefnogaeth, arweiniad a hyfforddiant un i un o ran dod o hyd i gyflogaeth.
Mae timau Prosiect Cymunedau dros Waith ymroddedig ar waith ar draws Blaenau Gwent i ddarparu cefnogaeth i bobl o bob oed (19 a mwy), gymryd rhan mewn cymwysterau sy'n gysylltiedig â chyflogaeth, gan wella sgiliau hanfodol, gwella hyder, a hefyd wrth sicrhau gwaith, neu gyfleoedd hyfforddi.
Gallwn gwrdd â chi mewn lleoliadau cymunedol a llyfrgelloedd ar adegau sy'n addas i chi. Byddwn yn gallu eich helpu chi i ddod o hyd i'ch ffordd i lwyddiant neu eich rhoi ar y trywydd cywir.
Os ydych chi'n meddwl y gallem ni eich helpu chi i chwilio am waith, hyfforddiant neu gymwysterau, cysylltwch â ni.