Mae Cymunedau am Waith a Mwy (CfW+) ar gael i bobl 20+ oed ledled Sir y Fflint nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant.
Mae CfW+ yn rhaglen wirfoddol, sy'n cynnig cymorth, cefnogaeth, arweiniad a hyfforddiant mewn perthynas â dod o hyd i waith, trwy wasanaeth 1-2-1 gan ein tîm o fentoriaid ymroddedig.
Mae ein tîm ar waith ledled Sir y Fflint i ddarparu cymorth, i bobl o bob oed a gallu gymryd rhan mewn cymwysterau sy'n gysylltiedig â chyflogaeth, gwella sgiliau hanfodol, hyder ac wrth sicrhau cyfleoedd gwaith neu hyfforddiant.
Gall mentoriaid gwrdd â chi mewn lleoliadau cymunedol a llyfrgelloedd sy'n addas i chi, sy'n golygu llai o deithio i ddod o hyd i'r help sydd ei angen arnoch.
Os ydych chi'n credu y gallwn eich helpu chi i chwilio am waith, hyfforddiant neu gymwysterau, cysylltwch â ni.