Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Asiantau Cymunedol - GOEDPOETH

Lleoliad

Visitable Address

The Old Carnegie Library Park Road

Cyfeiriad post

The Old Carnegie Library Park Road

Cyswllt

01978 756890

Mae Asiantau Cymunedol yn ymateb arloesol i angen cydnabyddedig nad yw llawer o bobl sy'n byw yn ein cymunedau yn gallu cysylltu â gwasanaethau allweddol sy'n helpu ac yn cynnal lles ac yn cefnogi ansawdd eu bywyd.

Mae Asiantau Cymunedol yn gweithio gydag unigolion dros 50 oed yn Wrecsam, gan ddarparu mynediad hawdd at amrywiaeth o wybodaeth fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â’u hanghenion presennol ac yn y dyfodol.

Bydd Asiantau Cymunedol yn cefnogi pobl sy’n byw yn ardaloedd Wrecsam, gan bontio’r bwlch rhwng ygymuned leol a’r sefydliadau statudol neu wirfoddol ac yn gallu cynnig cymorth neu gefnogaeth. Mae’r cynllun yn gweithio gan fod yr Asiantau’n byw’n agos at y cymunedau y maent yn gweithio ynddynt. O ganlyniad, maent yn adnabod y pentrefi a’r bobl yn dda.

Mae asiantau yn rhoi trosolwg o'r gwasanaethau sydd ar gael yn y sir ac yn cynnig cymorth i gael mynediad atynt.