Mae Swyddogion Datblygu PAVO yn gweithio’n uniongyrchol gydag ymddiriedolwyr a staff grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol unigol i roi cymorth i’w helpu cyflawni eu nodau. Gall y gefnogaeth amrywio o gymorth ac arweiniad wrth sefydlu grŵp neu fudiad newydd; i gymorth i helpu datblygu gweithgareddau a phrosiectau grŵp sydd eisoes yn bodoli; ac os oes ei angen, cymorth i ddirwyn gweithgareddau grŵp i ben.
Gallwn roi gwybodaeth, arweiniad a chymorth ar amrediad eang o bynciau, megis:
Cyngor a chymorth ym maes cyllid i’ch helpu datblygu’r sgiliau i lunio ceisiadau am gyllid;
Arweiniad ar ddatblygu eich prosiect;
Llunio cynlluniau busnes a strategaethau cyllido;
Paratoi neu ddiwygio dogfennau llywodraethu;
Cofrestru fel Elusen;
Datblygu polisïau a gweithdrefnau;
Ymgysylltu â’r gymuned a defnyddwyr eich gwasanaeth;
Hyfforddiant
Galw heibio
Hunangyfeirio
Atgyfeiriad gan asiantaeth
Trwy drefnu apwyntiad yn unig