Cyfle i gwrdd ac ymwneud â phobl eraill sy’n ddall neu sydd â golwg rhannol ar-lein, dros y ffôn neu yn eich cymuned er mwyn rhannu diddordebau, profiadau a chefnogaeth i’ch gilydd. O glybiau llyfrau a grwpiau cymdeithasol i chwaraeon a gwirfoddoli, bydd ein tîm cyfeillgar, cymwynasgar a gwybodus ni yn gallu’ch cysylltu â chyfleoedd fydd yn gweddu i chi.
Cysylltwch â'n Llinell Gymorth i gael gwybod beth sy'n digwydd. Ffoniwch: 0303 123 9999 E-bost: helpline@rnib.org.uk neu ewch i https://www.rnib.org.uk/cy/nations/cymruwales/. Mae'r Llinell Gymorth ar agor 8am tan 8pm yn ystod yr wythnos a 9am tan 1pm ar Ddydd Sadwrn.
Os oes gennych chi ddyfais sydd wedi’i galluogi gan Alexa, gallwch ddweud “Alexa, Call RNIB Helpline”.