Mae Cylch Meithrin Pentre Bach yn cynnig gofal dydd llawn trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn derbyn talebau gofal plant, Dechrau'n Deg ar gyfer teuluoedd cymwys ac wedi ein cymeradwyo gan yr Awdurdod Lleol fel darparwr addysg. Rydym wedi ein cofrestru i gyflwyno y Cynnig Gofal 30 awr. Mae teuluoedd cymwys i dderbyn Credyd Treth Gwaith yn gallu hawlio canran o gost ffioedd. Mae clwb brecwast yn rhedeg o 8.30am - 9:00am.Cost brecwast iach yw £2.00 y sesiwn.
Mae seiwn bore yn rhedeg o 9-11.30am.
Mae sesiwn y prynhawn yn rhedeg o 12.30 - 3pm.
Rydym yn gofalu am y plant rhwng 11:30am - 12:30pm.
Cost gofal awr ginio yw £2. Rhaid i rieni ddarparu pecyn cinio.
Rydym yn darparu bws mini i ac o Ysgol Santes Tudful ar gyfer disgyblion y meithrin yno.